Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-30-14
CLA468 - Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014
Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli cadw a chyflwyno pysgod mewn dyfroedd mewndirol (yn ddarostyngedig i eithriadau ynghylch cynhyrchu dyframaethol).
Maent hefyd yn darparu: (1) ar gyfer rhoi trwyddedau i gyflwyno neu gadw pysgod mewn dyfroedd mewndirol gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, a’r amodau y gellir eu hatodi i drwyddedau; (2) dirymu, atal dros dro ac amrywio trwyddedau; (3) gorfodi’r Rheoliadau; (4) troseddau a chosbau am dorri’r Rheoliadau; a (5) bod trwydded sydd eisoes mewn grym o dan adran 1 o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980 i gael ei thrin fel trwydded o dan y Rheoliadau.
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Craffu technegol
Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Defnydd o “he” yn Rheoliad 12(1)(g) yn y Saesneg.
Rheol Sefydlog 21.2(viii) - defnydd o iaith ryw-benodol
2. Defnydd o “arolygydd” (“inspector”) yn lle “swyddog” (“officer”) yn Rheoliad 12(5) yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rheoliad Sefydlog 21.2(vi) – mae’n ymddangos bod y drafftio yn ddiffygiol.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Tachwedd 2014
Ymateb y Llywodraeth
Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014
Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt a godwyd mewn perthynas â rheoliad 12(1)(g) o’r Rheoliadau. Dylid rhoi’r geiriau “mae’r swyddog yn” yn lle’r gair “mae’n”. Mae angen gwneud newid cyfatebol hefyd i destun Saesneg Rheoliad 12(1)(g). Nid yw’r gwall hwn yn newid ystyr yr offeryn nac yn effeithio ar ei ddilysrwydd ac fe gaiff ei gywiro adeg ei gyhoeddi.
Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt a godwyd mewn perthynas â rheoliad 12(5) o’r Rheoliadau. Dylid rhoi’r geiriau “y swyddog” yn lle’r geiriau “yr arolygydd”. Mae angen gwneud newid cyfatebol hefyd i destun Saesneg Rheoliad 12(5). Nid yw’r gwall hwn yn newid ystyr yr offeryn nac yn effeithio ar ei ddilysrwydd ac fe gaiff ei gywiro adeg ei gyhoeddi.